Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (97)v3 |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
3. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno busnes ar 2 Ionawr 2013
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NNDM5101 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal:
a) Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a
b) y rhan honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael eu cyflwyno o leiaf bum niwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, er mwyn caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.
2. Yn cytuno y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu hatal ar ddydd Mercher 2 Ionawr yn unig.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig Gweithdrefnol
Cafwyd cynnig trefniadol gan Andrew RT Davies yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5098 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r effaith negyddol y gall pwysau’r gaeaf ei chael ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol ac ar fywydau pobl mewn cymunedau ledled Cymru.
2. Yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i’w chwarae wrth liniaru unrhyw faich a roddir ar bobl ledled Cymru oherwydd pwysau’r gaeaf.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu Strategaeth Pwysau’r Gaeaf ar draws portffolios i sicrhau bod cynlluniau wrth gefn effeithiol ar waith i fynd i’r afael â’r effaith a gaiff pwysau’r gaeaf ar fywydau yng Nghymru.
4. Yn credu y dylai fod gan un o Weinidogion Cymru gyfrifoldeb cyffredinol dros ymateb i ddigwyddiadau a allai godi oherwydd tywydd difrifol y gaeaf yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
5. Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5099 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd mawr cyllideb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chronfeydd rhanbarthol; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i beidio â hybu na chytuno ar unrhyw ostyngiad yn y gyllideb Ewropeaidd a fydd yn cael effaith andwyol ar Gymru a’n gallu i gryfhau economi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
18 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
6. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5097 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system sy’n golygu bod modd plismona’r Cod Gweinidogol yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘, gydag amserlen glir ar gyfer ymgynghori a gweithredu’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant.
Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio gan y Cynulliad, a chan na dderbyniwyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem hon am 17.32
Crynodeb o Bleidleisiau
7. Dadl Fer
NDM5100 Andrew RT Davies (Canol De Caerdydd):
A yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn addas i’r diben?
Mae angen diwygio'r system yn ei hanfod os yw am sicrhau canllawiau tymor hir effeithiol ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru.
Cafodd y Ddadl Fer ei gohirio gan gynnig gweithdrefnol yn gynharach yn nhrafodion y dydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2012